Gwneud ewyllys - Does neb yn hoffi meddwl am adael eu perthnasau, ond mae’n bwysig ystyried y dyfodol a sicrhau eich bod wedi paratoi yn ddigonol ar gyfer anghenion eich teulu. Y ffordd fwyaf ddibynadwy o sicrhau hyn yw paratoi ewyllys a fydd yn dangos eich dymuniadau personol ynglŷn â dosbarthiad eich eiddo. Os oes gennych ewyllys yn barod, mae’n bwysig eich bod yn adolygu cynnwys yr ewyllys er mwyn sicrhau ei bod yn delio ag unrhyw newidiadau a fyddai yn dileu’r ewyllys e.e. priodas.
Deallwn fod hwn yn fater sensitif a phersonol, ac yn aml yn anodd i’w ystyried a’i drafod, ond cynigiwn wasanaeth personol a diffwdan er mwyn gwneud y broses mor llyfn a syml â phosibl.
Profiant a gweinyddiaeth ystâd - Mae profedigaeth yn gyfnod anodd ac yn brofiad a ddaw i bawb rywbryd neu'i gilydd. Gallwn helpu gyda’r gofynion cyfreithiol er mwyn cyflawnu’r dymuniadau sydd yn ewyllys eich anwyliaid.
Os ydych am drafod unrhyw wedd o’r pwyntiau uchod, cysylltwch gyda ni heddiw er mwyn trefnu apwyntiad.
Ffôn : 02920 020909