Yn sicr, symud tŷ yw un o’r penderfyniadau mwyaf bydd unigolyn yn ei wneud, ac mae’n gallu bod yn brofiad sy’n rhoi straen ar rywun. Rydym yn sylweddoli fod y farchnad dai yn newid ynghyd â gofynion ein cwsmeriaid, a cheisiwn wneud y broses mor syml â phosibl drwy ddarparu gwasanaeth cyflym, effeithiol, cyfeillgar a chadarnhaol. Er eich hwylustod chi, yn ogystal â’r gwasanaeth traddodiadol, cynigiwn wasanaeth ar lein sy’n eich galluogi i ddilyn trywydd eich achos ddydd a nos heb unrhyw gost ychwanegol. Er ein bod wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, rydym yn gweithredu ar ran nifer o gwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr. Ble bynnag y byddwch yn byw, gallwn ddarparu’r gwasanaeth a ddymunwch gyda phrisiau cystadleuol sefydlog, heb unrhyw ffioedd cudd. Mae gennym ddealltwriaeth eang o’r farchnad dai a chysylltiadau cryf â’r gymuned leol. Cynigiwn ystod eang o wasanaethau, a deliwn gyda’r canlynol :
- Gwerthiant tai
- Prynu tai
- Ail-forgeisio
- Trosglwyddo ecwiti
- Tai newydd
- Prydles a rennir
- Materion cymdeithasau tai
- Cynllun Rhyddhau Eciwiti
- Datganiadau ymddiriedolaeth
Cysylltwch â ni heddiw i drafod y broses o brynu a gwerthu ac i dderbyn prisiau am ddim.
Ffôn : 02920 020909