amdanom ni

Yr hyn sydd gennym i’w gynnig yw profiad a thechnoleg cwmni mawr ond cyfeillgarwch a hyblygrwydd sydd gan amlaf yn cael eu cysylltu â chwmni llai. Anelwn at ddarparu gwasanaeth personol i’n cwsmeriaid tra’n cadw meddylfryd realistig gyda’n ffioedd. Rydym yn hynod falch fod llawer o’n gwaith yn dod drwy ein cwsmeriaid presennol neu drwy argymhellion gan gwsmeriaid.

Ymfalchïwn ein bod yn cynnig gwasanaeth cyflym o safon uchel ac rydym wedi buddsoddi yn y dechnoleg gyfreithiol ddiweddaraf i’n helpu. Defnyddiwn system rheoli gwybodaeth sy’n caniatáu i’n cleientiaid gael mynediad i’w ffeil ar y we er mwyn dilyn statws eu hachos 24 awr y dydd.

Penodir cyfreithwyr i’ch achos i gyfateb a’ch gofynion unigol, a’r cyfreithiwr yna fydd yn delio gyda’ch achos o’r dechrau i’r diwedd. Credwn mewn cynnal cyswllt personol gyda’n cleientiaid, ac mae modd cysylltu’n uniongyrchol gyda’ch cyfreithiwr drwy e-bost, ffôn neu ffôn symudol o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-6pm.

 

cartref | amdanom ni | ein gwasanaethau | partneriaid | mewngofnodi | newyddion | cysylltwch â ni | ffeindiwch ni | lincs

Evans and Jones Solicitors LLP is a limited liability partnership, registered in England and Wales, registered number OC333958, registered office 8b Station Road, Radyr, Cardiff, CF15 8AA. A list of the members' names and their professional qualifications is available for inspection at the above office. 'Partner' is used by us to refer to a member of the LLP. We are regulated by the Solicitors Regulation Authority. VAT No : 925 5609 11

© 2008 Evans&Jones Solicitors LLP
Website design and construction by
Freshline Graphics