residential

ein gwasanaethau: trwasgludo preswyl

Yn sicr, symud tŷ yw un o’r penderfyniadau mwyaf bydd unigolyn yn ei wneud, ac mae’n gallu bod yn brofiad sy’n rhoi straen ar rywun. Rydym yn sylweddoli fod y farchnad dai yn newid ynghyd â gofynion ein cwsmeriaid, a cheisiwn wneud y broses mor syml â phosibl drwy ddarparu gwasanaeth cyflym, effeithiol, cyfeillgar a chadarnhaol. Er eich hwylustod chi, yn ogystal â’r gwasanaeth traddodiadol, cynigiwn wasanaeth ar lein sy’n eich galluogi i ddilyn trywydd eich achos ddydd a nos heb unrhyw gost ychwanegol. Er ein bod wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, rydym yn gweithredu ar ran nifer o gwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr. Ble bynnag y byddwch yn byw, gallwn ddarparu’r gwasanaeth a ddymunwch gyda phrisiau cystadleuol sefydlog, heb unrhyw ffioedd cudd. Mae gennym ddealltwriaeth eang o’r farchnad dai a chysylltiadau cryf â’r gymuned leol. Cynigiwn ystod eang o wasanaethau, a deliwn gyda’r canlynol :
  • Gwerthiant tai
  • Prynu tai
  • Ail-forgeisio
  • Trosglwyddo ecwiti
  • Tai newydd
  • Prydles a rennir
  • Materion cymdeithasau tai
  • Cynllun Rhyddhau Eciwiti
  • Datganiadau ymddiriedolaeth

Cysylltwch â ni heddiw i drafod y broses o brynu a gwerthu ac i dderbyn prisiau am ddim.

Ffôn : 02920 020909