Cyflwynwyd y Pŵer Atwrnai Parhaol yn Hydref 2007 er mwyn disodli y Pŵer Atwrnai blaenorol. Ystyrir yn aml fod Pŵer Atwrnai Parhaol yr un mor bwysig ag ewyllys, gan ei fod yn rhoi’r pŵer i’r Atwrnai i ddelio gyda holl asedau person arall pe byddant yn anghymwys neu’n methu delio gyda hwy eu hunain. Am y rhesymau hyn, argymhellwn yn gryf i bawb ystyried gwneud Pŵer Atwrnai Parhaol beth bynnag eich oedran.
Ceisiadau i’r Llys Gwarchod - Os oes aelod o’ch teulu yn analluog a does dim Pŵer Atwrnai wedi ei drefnu, gallwn eich helpu i wneud cais i’r llys gwarchod er mwyn apwyntio person delfrydol i ddelio gyda materion personol.
Ffôn : 02920 020909