Erbyn hyn, mae’n gyfraith gwlad i ddarparu pecyn gwybodaeth i ddarpar-brynwr am y cartref (HIP) am bob tŷ sy’n cael ei farchnata. Mae’n rhaid i’r pecyn gael ei ddarparu gan y gwerthwr, ac mae’n rhaid iddo gynnwys gwybodaeth ynglŷn â theitl y tŷ, Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) a chanlyniadau'r ymchwiliadau lleol a dŵr. Os ydy’r tŷ ar brydles, bydd angen cynnwys copi o’r brydles yn y pecyn hefyd.
Mae gennym y cyfleusterau i gynhyrchu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref am gost sy’n gystadleuol, a byddwn yn hapus i drafod eich gofynion gyda chi. Cysylltwch â ni heddiw i drafod ymhellach.
Ffôn : 02920 020909