partneriaid

rhian

Mae Rhian yn un o sefydlwyr y cwmni, ac mae ganddi dros 7 mlynedd o brofiad mewn nifer o feysydd cyfreithiol.

Arbeniga Rhian ym mhob agwedd o drosglwyddo eiddo, gan gynnwys gwerthu a phrynu preswyl, ail-forgeisi a throsglwyddo ecwiti. Mae ganddi hefyd brofiad mewn delio â materion sy’n ymwneud ag ewyllysau a phrofiant yn ogystal â’r gyfraith newydd sy’n delio â phŵer atwrnai.

Mae Rhian yn rhugl yn y Gymraeg ac mae’n mwynhau canu gyda Chôr Caerdydd ynghyd â chanu’r piano a’r delyn yn ei hamser hamdden.

dalia

Mae Dalia hefyd yn un o sefydlwyr y cwmni, sy’n arbenigo ym mhob agwedd o drosglwyddo eiddo, gan gynnwys perchnogaeth prydles a rennir, a materion cymdeithasau tai. Mae ganddi brofiad mewn paratoi datganiadau ymddiriedaeth, ewyllysion a phrofiant, pŵer atwrnai parhaol a Phecyn Gwybodaeth am y Cartref. Yn ei hamser hamdden, mae Dalia yn mwynhau cymdeithasu, sgïo a theithio.

Mae’r ddau bartner yn raddedigion o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

.