cardiff solicitors news

Seminar ar Ewyllysau a Phrofiant

el rhan o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, mae Evans & Jones nawr yn cynnig seminarau yn rhad ac am dim i gwmniau a sefydliadau lleol yn ymwneud âg ewyllysau a Phwerai Atwrnai Parhaol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys mynychu eich cwmni, cynnal seminar oddeutu pymtheg i ugain munud yn delio â Ewyllysau a Phwerai Atwrnai Parhaol, ac yna sesiwn cwestiwn ac ateb yn ymwneud âg unrhyw agwedd o’r pwnc dan sylw.

Trwy’r seminarau yma, y gobaith yw i rannu gwybodaeth ac i ehangu dealltwriaeth pobl o’r pwnc dan sylw. Rydym hefyd yn ffyddiog y bydd y seminar yn helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sut i ddelio gyda’i ewyllys.

Os am ragor o wybodaeth ynglyn a’r gwasanaeth hwn, yna cysylltwch â Rhian Jones neu Dalia Evans.