cardiff solicitors news

Pŵer Atwrnai Parhaol

Cyflwynwyd y Pŵer Atwrnai Parhaol yn Hydref 2007 er mwyn disodli y Pŵer Atwrnai blaenorol. Ystyrir yn aml fod Pŵer Atwrnai Parhaol yr un mor bwysig ag ewyllys, gan ei fod yn rhoi’r pŵer i’r Atwrnai i ddelio gyda holl asedau person arall pe byddant yn anghymwys neu’n methu delio gyda hwy eu hunain. Am y rhesymau hyn, argymhellwn yn gryf i bawb ystyried gwneud Pŵer Atwrnai Parhaol beth bynnag eich oedran. Er fod y rheolai bellach wedi newid, mae’r Pwerau Atwrnai a waned cyn Hydref 2007 dal yn gyfreithiol. Yn ol y rheolau newydd, mae yna ddau fath o bwer atwrnai parhaol, ac fe ellir eu defnyddio’n unigol neu yn gysylltiedig a’u gilydd. Y cyntaf yw’r Pwer Atwrnai Parhaol – eiddo, sy’n delio gyda materion eiddo ac ariannol. Yr ail yw’r pwer sy’n delio a materion llesol yr unigolyn. Mae’r pwer yma yn gallu cael ei ddefnyddio er mwyn rhoi gwasanaeth nyrsio, neu’n debyg, ac hefyd er mwyn delio a materion dyddiol meddygol neu bersonnol.

Nod y Pwer Atwrnai Parhaol yw i wella’r system blaenorol. Maent yn rhoi mwy o allu i’r atwrnai, ond hefyd yn sicrhau bod yr atwrnai yn fwy atebol, ac felly yn amddiffyn pobl gwan. Un o’r brif newidiadau gyda’r rheolau newydd yw bod yn rhaid cofrestru’r pwer gyda’r llys gwarchod cyn y gellir ei ddefnyddio.

Os am unrhyw wybodaeth pellach ynglyn a phwerau atwrnai parhaol, cysylltwch a ni heddiw.