cardiff solicitors news

Gor Cwm Ni

Mae Rhian yn gyfeilyddes ar Gor Cwm Ni. Cor pedwar llais yw Cor Cwm Ni a sefydlwyd yng nghwm Rhymni er mwyn hybu cymdeithasu drwy gyfrwng y gymraeg yn yr ardal. Ar nos wener Mehefin 6ed, cynhaliwyd cyngerdd yng Nghaerfyrddin ar y cyd gyda chor Tonic. Llywydd y noson oedd Mererid Hopwood, ac fe chafwyd ein diddannu can ei straeon. Ysgrfennoddd Mererid hefyd englyn ar gyfer yr achlysur, a braint o'r ucha oedd ei chlywed. Mwynhaewyd gwledd o ganu gan y ddwy gor, o gerddoriaeth clasurol traddodiadol i’r cyfoes. Rydym yn barod yn edrych ymlaen at yr achlysur nesaf pan ddaw’r ddwy gor at ei gilydd.

Os oes unrhywun am ymuno a’r cor, rydym yn ymarfer bob nos Fawrth yn Ystrad Mynach, neu cysylltwch a Lynwen de la Taste neu Carys Crimmings am ragor o wybodaeth.