Fel aelod o Cor Caerdydd, fe ganodd Rhian yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sadwrn Mawr 1af 2008 ynghyd â Cherddorfa Cenedlaethol Gymreig y BBC, Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a’r delynores fyd enwog, Catrin Finch. Roedd y gyngerdd yn rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi, ac hefyd yn rhan o ddathliadau chwarter can mlwyddiant Neuadd Dewi Sant fel neuadd gyngerdd.
Chwaraeodd Catrin Finch y Consierto yn Bb fwyaf gan Handel, yngyd a chfansoddiad newydd gan y Cymro Gareth Glyn. Roedd yn berfformiad gwych gan y delynores.
Yn ystod yr ail hanner, fy berfformiodd y corau unedig gasgliad o ddarnau o’r darn, The Armed Man – A Mass for Peace gan y cyfansoddwr Karl Jenkins. Mae’r darn yma yn parhau i gael ei fwynhau sawl blwyddyn ar ol y perfformiad cyntaf. Gorffenwyd y noson drwy ganu’r anthem genedlaethol.